Hanes yr Ardal
1978 Ffatri Ddillad yng Nghilbedlam yn cau
1970 Pont Britannia bron wedi’i dinistrio mewn tân
1970 Adeiladu pont newydd ar draws y Cadnant.
1965 Gosod Cerrig yr Orsedd yn y Caeau Pleser i ddathlu Eisteddfod Ynys Môn y flwyddyn honno.
1962 Ysgol ‘Ramadeg’ Biwmares yn symud i Borthaethwy
1962 Stemars yn stopio dod i Borthaethwy
1953 HMS Conway yn suddo ar y creigiau a elwir y Platiau, yn y Swillies.
1948 Tŷ Cyngor cyntaf yn cael ei adeiladu yn Nhrem Eryri – agorwyd gan Megan Lloyd George A.S.
1941 Spitfire yn syrthio ym Miwmares
1935 Cae chwarae’r Brenin Siôr V yn cael ei roi i’r Dref gan Ardalydd Môn.
1933 Y Ddeddf Chwalu Slymiau yn gorchymyn clirio rhai tai yn Stryd y Ffynnon, Cilbedlam, Ffordd y Ffair a Dew Street (ac adeiladu tai newydd)
1928???? Y Lawnt Fowlio’n cael ei hagor gan y Brenin Edward VIII
1921 Dadorchuddio’r Gofeb Ryfel (gydag ychwanegiadau’r Ail Ryfel Byd yn 1950)
1870-1920 Llong hyfforddi’r Clio wedi’i hangori yn y Fenai ger Glyn Garth.
1919 New Hall yn cael ei gynnig i’r dref fel Canolfan Goffa ac fe’i hail-enwyd yn Neuadd y Dref (yn ddiweddarach daeth yn Sinema Luxor)
1916 Rhodfa’r Belgiaid yn cael ei hadeiladu gan ffoaduriaid
1913 Dechrau darparu goleuadau trydan.
1904 Pier Porthaethwy yn cael ei agor gan David Lloyd George A.S.
1903 Y Frech Wen yn y dref
1898 Ardalydd Môn yn cyflwyno Injan Dân i Borthaethwy
1896 Y Cyngor yn penderfynu enwi pob un o strydoedd y dref.
1895 Cyngor cyntaf Dosbarth Trefol Porthaethwy yn cael ei sefydlu
1891 Sefydlu Inffirmari Wyrcws Bangor – yn ddiweddarach Ysbyty Dewi Sant, Ffordd Caernarfon
1885 Cyflwyno goleuadau stryd – 4 lamp nwy (22 erbyn 1888)
1879 Comisiynwyr Gwella Llandysilio yn cael eu dewis i oruchwylio darparu dŵr a ‘lleihau niwsans’. Roedd niwsans yn unrhyw beth niweidiol i iechyd y cyhoedd. Deddf Porthaethwy.
1874/5 ‘Celc Porthaethwy’ sef 8 bwyell efydd yn cael eu canfod ger pen pella’r Bont
1865 Y British School (anenwadol) yn agor
1858 Adeiladu Eglwys y Santes Fair yn lle hen eglwys Llandysilio
1853 Adeiladu’r National School.
1850 Pont Britannia neu Bont y Tiwb yn creu cyswllt rheilffordd â’r tir mawr
c1840 Adeiladu Gwesty’r Victoria
1838 Adeiladu Capel Mawr
1832 Colera ar led yng Ngogledd Cymru
1828 Teulu Davies yn sefydlu busnes masnachu coed a nwyddau cyffredinol
1828 St George Steam Packet Company o Lerpwl yn rhedeg stemars i Borthaethwy
1826 Seremoni Agor y Bont Grog
1825 Yrnau Claddu o’r Oes Efydd yn cael eu darganfod wrth adeiladu’r ffordd i Fiwmares
1812 Melin Wlân a Ffatri Cadnant yn cael eu dechrau gan John Morgan
1805 Y ffordd i Fiwmares yn cael ei hariannu gan yr Arglwydd Bulkeley
1773 Gallai rhywun gael ei grogi am ddwyn nwyddau gwerth 12 hen geiniog neu fwy ac weithiau byddai eitemau’n cael eu tanbrisio’n fwriadol. Dedfrydwyd Margaret Thomas o Draeth Coch ym Miwmars i gael ei halltudio am 7 mlynedd.*
1760s Cofnododd William Bulkeley, Ynad Heddwch uchel ei barch, “Pd a Flintshire smuggler that was come to Cemaes from the Isle of Man, 25 shillings for five gallons of French Brandy which I think is right good”.*
1742 Tystiolaeth William Bulkeley, “It hath been now near 3 months very sickly and mortall in all parts of the Country. A raging Fever takes some off in a day or two’s time. An Epidemical fever rages almost every where and those thate dye (who are very many) do dye in a short time”.*
1741 Ysgrifennodd William Morris, ” We have a disease here worse than politics, if that is possible, that is scarcity of food for Christians. …. if we do not get food from other parts there will surely be a famine among us before the harvest…….. I do not know what would have become of hundreds of poor people. There is a great drought here”.*
1728 Ysgrifennodd y Parchedig Owen Davies, ” There were 4 corps at Llanbadrick last Sunday………it is mortal along ye sea coast…. God prepare us all. The Gentry in general are pretty hearty in ye county, its ye common sort that drop off”*
1686 Adeiladu’r Cambria Inn ar gyfer teithwyr y fferi.
1681 Cofnod cyntaf o Ffair y Borth
1648 Castell Biwmares o dan warchae ac ildiwyd i’r Seneddwyr. Yn ôl y sôn, arhosodd Cromwell yng Ngwesty’r Bull
1631 Ymosodwyd ar bentref Baltimore yn Swydd Corc gan fôr-ladron Algeraidd o Arfordir Barbari. Cipiodd y môr-ladron y boblogaeth gyfan bron, sef dros 100 o bobl, a gafodd eu rhoi mewn cadwynau haearn a’u cymryd i fywyd o gaethwasiaeth yng Ngogledd Affrica. Mae Baltimore tua 300 milltir o Borthaethwy.
1603 Ysgol Ramadeg Biwmares yn cael ei sefydlu gan David Hughes
1594 Y Frenhines Elisabeth 1 yn prydlesu fferi ar draws y Fenai i John Williams
1589 Y cyntaf o sawl cored pysgod o amgylch Ynys Gorad Goch yn cael eu cofnodi (yn dyddio’n ôl i’r G13eg)
1570-1690 Llong estyll yn cario llechi yn suddo yn y Fenai rhwng y dyddiadau hyn ym Mhwll Fanogl.
1480au Tudor Rose yn cael ei adeiladu ym Miwmares (gall rhannau fod yn gynt)
1485 Harri Tudur yn esgyn i orsedd Lloegr.
c dechrau’r 15fed G, eglwys fach yn cael ei hadeiladu ar Ynys Tysilio.
1405 Byddin Iwerddon, o dan orchymyn Stephen Scrope, dirprwy lywodraethwr Iwerddon, yn glanio yng Nghaergybi, yn symud ymlaen i Fiwmares, yn ail-gipio’r castell gan y gwarchodlu gwrthryfelgar Cymreig. Cymerodd y Gwyddelod gysegr Sant Cybi o Gaergybi a’i gosod yng nghadeirlan Eglwys Crist yn Nulyn.
1400 Yng Nglyndyfrdwy, cyhoeddi Owain yn Dywysog Cymru wrth i wrthryfel gychwyn ar Ynys Môn yr un pryd. Harri IV yn arwain y fyddin ac yn anrheithio ardal Biwmares, yn llosgi’r Fynachlog yn Llanfaes ac yn lladd y mynachod (gwrthryfelwyr)
1350 Achos llys gan Esgob Mathew o Fangor ynghylch y tollau fferi i groesi’r Fenai
1349 Y Pla Du yng Ngogledd Cymru yn 1349, 1361 ac 1369. Ardal Malltraeth gafodd ei heffeithio waethaf yn lleol.
1330 Storm aruthrol ar 6 Rhagfyr yn Niwbwrch a Rhosyr. Môr a thywod yn ysgubo dros 183 o erwau
1315-17 Newyn mawr yn dilyn y newid hinsawdd gyda gaeafau oerach a hafau byrrach a gwlypach
G14eg Felin Fach, melin rawn o dan reolaeth Tywysogion Cymru yn weithredol
1295‐8 Adeiladu Castell Biwmares.
1282‐3 Ail Ryfel dros Annibyniaeth Cymru
1276‐7 Rhyfel Cyntaf dros Annibyniaeth Cymru
1199‐1240 Gwynedd yn cael ei rheoli gan Lywelyn Fawr.
1193-94 Brwydr Porthaethwy, lle bu i Llywelyn ap Iorwerth, a adnabuwyd wedyn fel Llywelyn Fawr, drechu ei ewythr Rhodri, mab Owain Gwynedd a oedd yn dal Ynys Môn ar y pryd
1188 Archesgob Baldwin o Gaergaint yn pregethu, o bosibl ym Mhorthaethwy, i recriwtio i’r Croesgadau, anfarwolwyd hyn yng ngweithiau ‘Gerallt Gymro’.
c.1153 Mab Owain Gwynedd, Hywel yn chwarae rhan bwysig yng ngoresgyniad Ceredigion gan dŷ Gwynedd. Mae’n debyg iddo farw mewn brwydr yn erbyn ei hanner brodyr ger Pentraeth; fe’i claddwyd ym Mangor.
1098 Mehefin/Gorffennaf Ymladdwyd Brwydr Swnt Ynys Môn ar afon Menai. Ymladdwyd y frwydr rhwng Magnus Droednoeth, Brenin Norwy, a’r ieirll Eingl-Sacsonaidd, Hugh o Drefaldwyn a Hugh d’Avranches, ac roedd yn rhan o ymgyrch Magnus Droednoeth i mewn i Fôr Iwerddon, i geisio arddel rheolaeth Norwyaidd dros Deyrnas yr Ynysoedd. Dim ond ychydig ddyddiau wedi i’r Normaniaid gipio Ynys Môn gan y Cymry, ymddangosodd Magnus Droednoeth gyda rhai llongau oddi ar yr arfordir. Buan iawn y dechreuwyd ymladd gyda saethau’n mynd rhwng llongau Norwy a’r lluoedd Normanaidd ar y lan. Ond wrth i Hugh o Drefaldwyn gael ei daro â saeth a’i ladd, enciliodd y Normaniaid yn ôl i Loegr. Gyda threchu’r Normaniaid, gwelwyd yn dychwelyd o’i alltudiaeth, Gruffydd ap Cynan, Brenin Gwynedd, a lwyddodd drwy hynny i adennill rheolaeth dros ei diroedd.
844 O.C. Cofnod cyntaf o’r Daniaid yn ymosod ar Ynys Môn.
c. 630 O.C. Sant Tysilio yn sefydlu eglwys, o blethwaith a chlai mae’n debyg, ar Ynys Suliau
c.540 O.C. Sant Seiriol yn sefydlu mynachlog ym Mhenmon.
c. 500 O.C. Cadwallon yn trechu’r Gwyddelod yng Ngherrig y Gwyddyl.
c.385 O.C. Segontium yn cael ei adael yn derfynol.
218-268 O.C. Darnau arian Rhufeinig yn dyddio i’r cyfnod hwn yn cael eu darganfod yng Nghoed Cyrnol
c. 80 O.C. Adeiladu Caer Rufeinig yn Segontium
61 O.C. Y Rhufeiniaid yn goresgyn Ynys Môn
Oes yr Haearn Anheddiad Dinas Cadnant mewn bodolaeth
History of the Area
1978 Clothing Factory in Dale Street closed
1970 Tubular Bridge virtually destroyed by fire

1970 New bridge built across the Cadnant.
1965 Gorsedd Stones erected in the Pleasure Ground Woods to celebrate the Anglesey Eisteddfod of that date.
1962 Beaumaris ‘Grammar’ School moves to Menai Bridge
1962 Steamers stop visiting Menai Bridge
1953 HMS Conway founders on the rocks known as the Platters, in the Swillies.
1948 First Council House built at Trem Eryri – opened by Megan Lloyd George M.P.
1941 Spitfire crashes in Beaumaris
1935 George V Recreation ground given to the Town by the Marquess of Anglesey.
1933 Slum Clearance Act instructs the clearance of some houses in Well Street, Dale Street, Wood Street and Dew Street (and building of new houses)
1928???? Bowling Green opened by King Edward VIII
1921 War Memorial unveiled (with WW2 additions in 1950)
1870-1920 Training ship Clio moored in the Strait near Glyn Garth.
1919 New Hall offered to the Town as a War Memorial and it was renamed the Town Hall (later to become the Luxor Cinema)
1916 Belgian Promenade built by refugees
1913 Provision of electric light begins.
1904 Menai Bridge Pier opened by Lloyd George MP
1903 Smallpox in the town
1898 Marquess of Anglesey presents Menai Bridge with a Fire Engine
1896 The Council decides to name all the streets in the Town.
1895 First Council of the Urban District of Menai Bridge set up
1891 Bangor Workhouse Infirmary Institution established – later to become St. David’s Hospital, Caernarfon Road, Bangor
1885 Street lighting introduced – 4 gas lamps (22 by 1888)
1879 Llantysilio Improvement Commissioners chosen to oversee providing water and ‘abating nuisances’ , a nuisance being anything harmful to public health. The Menai Bridge Act
1874/5 The ‘Porthaethwy hoard’ of 8 bronze axes found close to the end of the Bridge
1865 British School (non denominational) opened
1858 St Mary’s Church built to replace the old church of Llandysilio
1853 National School built.
1850 Britannia Tubular Bridge establishes railway connection with the mainland
c1840 Victoria Hotel built
1838 Capel Mawr built
1832 Cholera widespread in North Wales
1828 Davies Family establish timber merchants and general merchandise
1828 St George Steam Packet Company of Liverpool running steamers to Menai Bridge
1826 Grand opening of the Suspension Bridge
1825 Bronze Age Burial Urns found when the road to Beaumaris was being built
1812 Cadnant Woollen Mill and Factory started by John Morgan
1805 Road to Beaumaris funded by Lord Bulkeley
1773 A person could be hanged for stealing articles 12 pence or over i.e. 5 new pence and sometimes articles were undervalued on purpose. Margaret Thomas, from Red Wharf was sentenced, at Beaumaris, to be transported for 7 years.*
1760s William Bulkeley, a respected Justice of the Peace, recorded, “Pd a Flintshire smuggler that was come to Cemaes from the Isle of Man, 25 shillings for five gallons of French Brandy which I think is right good”.*
1742 William Bulkeley witnessed, “It hath been now near 3 months very sickly and mortall in all parts of the Country. A raging Fever takes some off in a day or two’s time. An Epidemical fever rages almost every where and those thate dye (who are very many) do dye in a short time”.*
1741 William Morris wrote, ” We have a disease here worse than politics, if that is possible, that is scarcity of food for Christians. …. if we do not get food from other parts there will surely be a famine among us before the harvest…….. I do not know what would have become of hundreds of poor people. There is a great drought here”.*
1728 The Reverend Owen Davies wrote, ” There were 4 corps at Llanbadrick last Sunday………it is mortal along ye sea coast…. God prepare us all. The Gentry in general are pretty hearty in ye county, its ye common sort that drop off”*
1686 The Cambria Inn built to serve ferry travellers.
1681 First record of Porthaethwy Fair
1648 Beaumaris Castle besieged and surrendered to the Parliamentarians. Cromwell reputedly stays at the Bull Inn
1631 the village of Baltimore in County Cork was attacked by Algerian pirates from the Barbary Coast. The pirates captured almost the whole population of over 100 people, who were put in irons and taken to a life of slavery in North Africa. Baltimore is approximately 300 miles from Menai Bridge.
1603 Beaumaris Grammar School established by David Hughes
1594 Queen Elizabeth 1 first leased ferry across the Straits to John Williams
1589 First of many fish weirs around Ynys Gorad Goch were recorded (date back to the C13)
1570-1690 Clinker built ship carrying slate sunk in the Straits between these dates at Pwll Fanogl.
1480s Tudor Rose built in Beaumaris (parts may be of an earlier date)
1485 Henry Tudor ascends the English throne.
c early C15th small church on Church Island was built.
1405 Irish army commanded by Stephen Scrope, deputy lieutenant of Ireland, lands in Holyhead, moves on to Beaumaris, recaptures the castle from the rebel Welsh garrison. Irish took the shrine of St. Cybi from Holyhead and placed it in Christ Church cathedral in Dublin. (page 321)
1400 Proclamation at Glyndyfrydwy of Owain as Prince of Wales a revolt breaks out on Anglesey at the same time. Henry IV leads army and lays waste to the Beaumaris area, burns the Friary at Llanfaes and kills the friars (rebels)
1350 Court case by Bishop Mathew of Bangor about Ferry dues to cross the Straits
1349 The Black Death in Nothe Wales in 1349, 1361 and 1369. Malltraeth area worst affected locally.
1330 Tremendous storm on 6th December Newborough and Rhosyr, 183 acres overwhelmed by sea and sand.
1315-17Great famine follows climate change with colder winters and shorter wetter summers
C14 Felin Fach, a corn mill under the control of the Welsh Princes operating
1295‐8 Building of Beaumaris Castle.
1282‐3 Second War of Welsh Independence.
1276‐7 First War of Welsh Independence.
1199‐1240 Gwynedd ruled by Llywelyn the Great.
1193-94 Battle of Porthaethwy where Llewelyn Ap Iorwerth, later known as Llewelyn the Great defeated his uncle Rhodri, son of Owain Gwynedd who held Anglesey at that time.
1188 Archbishop Baldwin of Canterbury preached, possibly in Porthaethwy, to recruit for the Crusades, immortalised by he writings of ‘Gerald of Wales’.
C1153 The son of Owain Gwynedd, Hywel played a major part in the occupation of Ceredigion (Cardiganshire) by the house of Gwynedd (c. 1153). He probably died in battle against his half brothers near Pentraeth, Anglesey; he was buried at Bangor.
1098 June/JulyThe Battle of Anglesey Sound was fought on the Menai Strait (“Anglesey Sound. The battle was fought between Magnus Barefoot , King of Norway , and the Anglo‐Norman earls Hugh of Montgomery and Hugh d’Avranches , and took place as part of Magnus Barefoot’s expedition into the Irish Sea , which sought to assert Norwegian rule over the Kingdom of the Isles . Only a few days after the Normans had captured Anglesey from the Welsh, Magnus Barefoot appeared with some ships off the coast. Fighting soon began with arrows shot between the Norwegian ships and Norman forces on the shore, but as Hugh of Montgomery was hit with an arrow and killed, the Normans retreated back to England . The defeat of the Normans allowed for the return of the exiled Gruffudd ap Cynan , King of Gwynedd, who thereby regained control of his former lands.
844A.D. First recorded Danish raid on Anglesey.
c. 630A.D. St Tysilio sets up church, probably of wattle and daub on Ynys Suliau
c.540 A.D. St. Seiriol founds a monastery at Penmon.
c. 500A.D. Cadwallon defeats Irish at Cerryg y Gwyddyl.
c.385 A.D. Segontium finally abandoned.
218-268 AD Roman coins dating to this period found at Coed Cyrnol
c. 80A.D. Roman Fort built at Segontium
61A.D. Roman Invasion of Anglesey.
Iron Age Dinas Cadnant Settlement Complex in existence. 2000-1000BC